Afleveringen
-
Yn y bennod hon, mae Gwilym Dwyfor a Kate Wooward yn trafod y ddrama newydd sydd ar y gweill ar S4C, Ar y Ffin.
Mae Ar y Ffin yn dilyn yr Ynad profiadol, Claire Lewis Jones, yn darganfod gwead o weithgareddau troseddol all ei rhoi hi a’i theulu mewn peryg. Wrth i’r gwirionedd gael ei ddatgelu a chanlyniadau ddod i’r amlwg, rhaid i Claire wynebu ei rhagfarnau a’i phenderfyniadau ei hun. Daw’r ffin rhwng beth sy’n gywir ac anghywir yn annelwig, wrth i reddf famol Claire wrthdaro gyda’i hymrwymiad i gynnal y gwirionedd.
Felly, beth yw barn Gwilym a Kate ar ôl gwylio’r ddwy bennod gyntaf?
Bydd y bennod gyntaf o Ar y Ffin i’w gweld ar S4C am naw o’r gloch nos Sul (29ain o Ragfyr), gyda’r holl benodau eraill ar gael ar Clic neu BBC iPlayer yn dilyn darlledu’r bennod gyntaf. -
Mae Gwilym Dwyfor a Kate Woodward wedi bod yn trafod y ddrama drosedd newydd ar S4C, Cleddau.
Wedi’i seilio yn Sir Benfro, mae’r ddrama yn dilyn llofruddiaeth nyrs sy’n dod fel sioc enfawr i gymuned drefol fach.
O’r actio i’r teitlau agoriadol, mi fyddan nhw’n trafod y cyfan... -
Zijn er afleveringen die ontbreken?
-
Yn y bennod hon, mae Gwilym Dwyfor a Kate Woodward yn trafod y ddrama newydd gan BBC One, Lost Boys and Fairies.
Wedi'i seilio yng Nghaerdydd, mae'r ddrama ddwyieithog yn dilyn Gabriel ac Andy, ar eu taith i fabwysiadu eu plentyn cyntaf.
Dyma Golwg yn cyflwyno Ar Y Soffa, y podlediad sy’n trafod a dadansoddi yr hen a newydd yn sîn diwydiant ffilm a theledu Cymru.
Podlediad sy’n cael ei gyflwyno gan Dr Kate Woodward, darlithydd o adran theatr, ffilm a theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth, a Gwilym Dwyfor, colofnydd Ar Y Soffa yng nghylchgrawn Golwg.
Mwy: https://golwg.360.cymru/celfyddydau/sgrin -
Mae Gwilym Dwyfor a Kate Woodward yn trafod y gyfres newydd chwe rhan S4C. Drama sy’n camu i fyd bregus iechyd meddwl a galar, Creisis.
Dyma Golwg yn cyflwyno Ar Y Soffa, y podlediad sy’n trafod a dadansoddi yr hen a newydd yn sîn diwydiant ffilm a theledu Cymru.
Podlediad sy’n cael ei gyflwyno gan Dr Kate Woodward, darlithydd o adran theatr, ffilm a theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth, a Gwilym Dwyfor, colofnydd Ar Y Soffa yng nghylchgrawn Golwg.
Mwy: https://golwg.360.cymru/celfyddydau/sgrin -
Ym mhedwaredd bennod Ar y Soffa, mae Gwilym Dwyfor a Kate Woodward yn edrych yn ôl ar ffilm nostalgic, y comedi tywyll sy'n dathlu chwarter canrif ers cael ei ryddhau - Twin Town.
Dyma Golwg yn cyflwyno Ar Y Soffa, y podlediad sy’n trafod a dadansoddi yr hen a newydd yn sîn diwydiant ffilm a theledu Cymru.
Podlediad sy’n cael ei gyflwyno gan Dr Kate Woodward, darlithydd o adran theatr, ffilm a theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth, a Gwilym Dwyfor, colofnydd Ar Y Soffa yng nghylchgrawn Golwg.
Mwy: https://golwg.360.cymru/celfyddydau/sgrin -
Mae Gwilym Dwyfor a Kate Woodward yn trafod y ddrama wefreiddiol newydd, sef début cyfarwyddol Michael Sheen, The Way.
-
Yn ail bennod Ar y Soffa mae Gwilym Dwyfor a Kate Woodward yn croesawu gwestai arbennig - Ciron Gruffydd, awdur y gyfres ddrama newydd, Bariau.
-
Ym mhennod gyntaf Ar Y Soffa, mae Dr Kate Woodward a Gwilym Dwyfor yn trafod y ddrama swreal a chomedi tywyll newydd gan S4C, Pren Ar Y Bryn.